Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 6 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG (45 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (45 munud)
· Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 (15 munud)
· Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 (15 munud)
· Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18 (30 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17 (60 munud)
· Cynnig i drafod yr eitemau a ganlyn gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
o Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth;
o Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Dydd Mercher 7 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Urddas a Pharch yn y Cynulliad (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ynghylch y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yn Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (60 munud)
· Dadl Fer – Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Tirweddau Dynodedig (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y diweddaraf am ymchwiliad y DU i waed heintiedig (45 munud)
· Dadl ynghylch egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 14 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)
· Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)
Dydd Mawrth 20 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi: Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 (15 munud)
Dydd Mercher 21 Mawrth 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)